Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
28 Chwefror 2022
SL(6)154 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 31 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”) mewn perthynas â Rhestri Cyflawnwyr Deintyddol o ganlyniad i ddiddymu adran 15(1)(b) o Ddeddf Deintyddion 1984.
Mae'r Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol yn sicrhau bod deintyddion yn addas i ymgymryd â gwasanaethau deintyddol sylfaenol ac yn diogelu cleifion rhag unrhyw gyflawnwyr nad ydynt yn addas, neu y gallai eu gallu i gyflawni'r gwasanaethau hynny fod yn llai effeithiol. Mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod deintyddion sydd â diploma Ewropeaidd priodol yn parhau i fod yn esempt rhag y gofyniad i ymgymryd â hyfforddiant sylfaen cyn eu bod yn gymwys i’w cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio gwall a wnaed gan Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019, a ddiwygiodd Ddeddf Deintyddion 1984, fel nad oedd yr esemptiad mwyach yn cynnwys y rhai a oedd â chymwysterau UE. Roedd ymgeiswyr a oedd â chymwysterau UE wedi'u cynnwys yn y grŵp o ymgeiswyr a oedd yn gorfod ymgymryd â hyfforddiant sylfaen er mwyn gwneud cais i fod ar y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol, ac nid dyna oedd bwriad y polisi. Bwriad y polisi oedd sicrhau bod ymgeiswyr a oedd â chymwysterau UE yn parhau i allu cofrestru yn y DU o dan amodau tebyg i’r amodau cofrestru blaenorol, gan gynnwys cael esemptiad rhag hyfforddiant sylfaen.
Dim ond yn awr y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud, gan mai dim ond yn ddiweddar y tynnodd Llywodraeth y DU sylw Llywodraeth Cymru at y mater.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 4 Chwefror 2022
Fe’u gosodwyd ar: 8 Chwefror 2022
Yn dod i rym ar: 7 Mawrth 2022
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
28 Chwefror 2022
SL(6)156 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Gorchymyn Atafaelu Enillion (AEO) yn ffordd i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi ac adennill mewn perthynas â’r dreth gyngor. Mae'n galluogi awdurdod i adennill arian yn uniongyrchol o enillion cyflogai drwy eu cyflogwr er mwyn talu treth gyngor sy'n ddyledus.
Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn pennu didyniadau sydd i’w gwneud o dan orchymyn atafaelu enillion, y gall awdurdod bilio (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) ei gyfeirio at gyflogwr person sydd wedi cael gorchymyn atebolrwydd gan lys ynadon.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 drwy uwchraddio’r tablau a ddefnyddir i gyfrifo'r swm a ddidynnir gan awdurdodau lleol drwy'r cyflogwr.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Fe’u gwnaed ar: 7 Chwefror 2022
Fe’u gosodwyd ar: 9 Chwefror 2022
Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2022